CYFARWYDDWYR ANGLADDAU

Croeso

Mae Roberts & Owen yn gwmni annibynnol, teuluol, sydd wedi ei hen sefydlu ym Mhen-y-groes, Dyffryn Nantlle. Mae hefyd cangen yng Nghaernarfon i gwrdd â gofynion yr ardal estynedig y mae’r cwmni bellach yn ei gwasanaethu.

Roberts & Owen VehiclesRoberts & Owen Funeral Directors

Mae’r cwmni bellach wedi tyfu i wasanaethu rhan helaeth o Wynedd – Dyffryn Nantlle, Caernarfon, Llanrug, Y Felinheli a thu draw, Eifionydd a Phen Llŷn. Argymhellion personol a safon uchel y gwasanaeth yw’r prif resymau dros hyn.

Pan fyddwch angen cymorth fe gewch sylw personol gan aelod o staff, a all ateb eich holl ofynion.

Mae Roberts & Owen yn cynnig gwasanaeth 24 awr, 7 niwrnod yr wythnos, gan ymateb i alwadau i bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Dros y blynyddoedd rydym wedi dod ag anwyliaid yn ôl adra o bob rhan o’r byd.

Mae Roberts & Owen yn aelod o’r cymdeithasau blaenllaw o fewn y diwydiant – y National Association of Funeral Directors, y National Society of Allied and Independent Funeral Directors a’r Association of Green Funeral Directors. Maent hefyd yn rhan o’r Funeral Arbitration Scheme – gwasanaeth cymodi annibynnol, ar gyfer yr amgylchiad annhebygol hwnnw pryd na fydd cwsmer yn fodlon gydag angladd ei anwylyd.